Eirian Short

Y Brain / Crows

Ganwyd Eirian Short yn Abergwaun yn 1924. Astudiodd gerflunio a brodwaith yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain. Rhwng 1953 a 1985 bu'n ddarlithydd mewn nifer o golegau celf yn Llundain tra ar yr un pryd yn datblygu ei gwaith ei hun gan arddangos yn helaeth.

Yn ogystal a'i lluniau a'i gweithiau artistig niferus bu Eirian yn gynhyrchiol iawn hefyd fel awdur. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae 'Embroidery & Fabric Collage', 'Introducing Macrame', 'Introducing Quilting', 'Quilting, technique, design and application' a 'Readers Digest Guide to Needlework'.

Cynhaliodd arddangosfeydd niferus, llawer ohonynt gydag un arall o'r casgliad hwn o artistiaid, ei gwr Denys. Ers rhai blynyddoedd bellach mae'r ddau yn byw yn Dinas ac yn gweithio'n brysur iawn ar eu lluniau a'u cerfluniau.

Eirian, ynghyd a Rozanne Hawksley ac Audrey Walker, a fu'n gyfrifol am gydlynu brodwaith campus Glaniad y Ffrancod yn Abergwaun.

 Eirian Short was born in Fishguard in 1924. She studied sculpture and embroidery at Goldsmiths College, London. From 1953 to 1985 she lectured at various London art colleges, while developing her own work and exhibiting widely.

Eirian has also been a productive author. Amongst her publications are: 'Embroidery & Fabric Collage', 'Introducing Macrame', 'Introducing Quilting', 'Quilting, technique, design and application' and 'Readers Digest Guide to Needlework'.

She has held numerous exhibitions, many of them together with another artist from this collection, her husband Denys. For some years now they have lived at Dinas Cross and are working as hard as ever on their pictures and sculptures.

Eirian, along with Rozanne Hawksley and Audrey Walker, co-ordinated the excellent 'Last Invasion of Britain' embroidered tapestry in Fishguard.

Eirian Short

Ysgol Casmael Sir Benfro