Robert Recorde 1510 - 1558
Gellir gweld un o lyfrau'r Doctor Robert Recorde yn yr Amgueddfa yn Ninbych y Pysgod.
Ganed Robert Recorde yn Ninbych y Pysgod yn 1510, ond does fawr o neb yn gwybod llawer amdano erbyn heddiw. Roedd ei fam, Rose, yn ferch i Thomas Jones o Fachynlleth a'i dad yn fasnachwr Tuduraidd yn Ninbych y Pysgod.
Gadawodd Robert Sir Benfro yn 15 mlwydd oed am Rydychen. Bu'n dysgu am gyfnod cyn dod yn feddyg i Edward y Chweched a'r Frenhines Mari.
Roedd e'n wr bonheddig, yn fathemategydd, yn gyfarwydd a'r iaith Roeg, yn fedrus mewn meddyginiaeth ac yn hyddysg yn y gyfraith. Gwr amryddawn iawn. Bu'n llywodraethwr y Bathdy, ac yn arolygwr mwyngloddiau arian yn Iwerddon a Lloegr.
Robert Recorde oedd un o'r dynion cyntaf yn y wlad yma i dderbyn syniadau COPERNICUS am yr haul. Un o wlad Pwyl oedd Copernicus. 1473 - 1543.
Dadleuai mai'r HAUL oedd canol system y bydysaw a bod y DDAEAR a'r PLANEDAU eraill yn cylchdroi o gwmpas yr haul. Cyn damcaniaeth Copernicus credai pobl fod y Ddaear yn aros yn ei hunfan a bod y planedau i gyd yn cylchdroi o'i chwmpas. Carcharwyd Copernicus am ei ddamcaniaeth.
Robert Recorde luniodd arwydd cyfartaledd, yr = , hefyd y cyntaf i gael hyd i'r 'square root'.
Bu farw yn y carchar yn Llundain.. Mae cofeb i Robert Recorde yn eglwys Santes Fair, Dinbych y Pysgod, un o eglwysi hynaf Cymru.
Cliciwch ar Robert Recorde i fynd ymlaen i’r Amgueddfa.
